75point3 - Diogelu'r

Diogelu’r bobl sydd bwysicaf i chi 75point3.com

2 | Diogelwch Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn syniad doeth, ond gall heriau godi’n annisgwyl. Mae creu cynllun cadarn yn golygu paratoi ar gyfer digwyddiadau annisgwyl bywyd, yn ogystal â’ch amcanion. Gall damweiniau a salwch arwain at golledion ariannol. Mewn achos o farwolaeth, gallai eich teulu wynebu anawsterau ariannol. Gall yswiriant helpu yn hyn o beth. Drwy drefnu sicrwydd priodol heddiw, gallwch amddiffyn eich hun a’ch anwyliaid rhag y beichiau ariannol a ddaw yn sgil digwyddiadau annisgwyl bywyd. Byddwch yn barod i wrthsefyll beth bynnag sydd ar y gorwel.

Diogelwch | 3 Yswiriant Bywyd Dyma’ch ffordd o amddiffyn eich anwyliaid rhag caledi ariannol petai’r gwaethaf yn digwydd. Mae yswiriant bywyd yn darparu cyfandaliad i ymdrin â rhwymedigaethau fel morgeisi, biliau a chostau byw. Cysylltwch â ni er mwyn dod o hyd i’r yswiriant addas ar gyfer eich anghenion. Cyfandaliad ar gyfer eich buddiolwyr petaech yn marw Diogelwch ariannol i dalu morgais, biliau’r cartref, ffioedd addysg a mwy Helpu i Leddfu’r beichiau ariannol pan na fyddwch o gwmpas Gweithiwch gyda ni i ganfod yr yswiriant mwyaf addas ar gyfer eich anghenion Fel cynllunwyr ariannol, rydym yn darparu datrysiadau amrywiol yn seiliedig ar eich anghenion. Rydym yn ymdrin â phopeth, o ddiogelu incwm yn ystod salwch i gynnal llesiant ariannol eich teulu a gallwn ymgorffori diogelwch yn ddidrafferth yn eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gallwch ddibynnu ar ein Cynllunwyr Ariannol Siartredig i’ch diogelu’n ariannol ar gyfer y dyfodol. Mae ein statws siartredig yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i broffesiynoldeb o’r radd flaenaf. EIN CYNNIG Gwasanaeth cynllunio ariannol annibynnol, profiadol Sicrwydd yn erbyn colled ariannol i chi a’ch anwyliaid Statws Cynllunio Ariannol Siartredig Mynediad i’r farchnad gyfan Cyngor wedi’i addasu i’ch amgylchiadau CIPOLWG

4 | Diogelwch Yswiriant Salwch Difrifol Dyma’ch ffordd o alluogi eich hun i ymdopi’n ariannol gyda salwch difrifol. Mae hwn yn cynnig cyfandaliad neu incwm misol ar gyfer cyflyrau megis strôc, trawiad ar y galon a mathau penodol o ganser. Lleddfwch eich beichiau ariannol gyda’r math hwn o gymorth wrth i chi wella. Cyfandaliad neu incwm misol os ydych yn cael diagnosis o salwch difrifol penodol Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer taliadau morgais, costau meddygol neu at unrhyw Ddiben arall Cymorth ariannol gwerthfawr mewn cyfnod heriol Incwm teulu Dyma’ch ffordd o sicrhau cymorth ariannol cyson i’ch teulu petaech yn marw. Mae hwn yn darparu incwm misol nes daw cyfnod eich polisi i ben, er mwyn helpu i dalu biliau a chostau gofal plant. Rhowch dawelwch meddwl i’ch teulu. Talu incwm rheolaidd i’ch buddiolwyr petaech yn marw Cymorth ariannol rheolaidd drwy gydol cyfnod y polisi Amddiffyn eich teulu a’ch anwyliaid rhag pryderon ariannol CIPOLWG CIPOLWG

Diogelwch | 5 Yswiriant gydol oes Darparu at ddyfodol eich teulu hyd yn oed ar ôl i chi farw. Mae yswiriant gydol oes yn sicrhau cyfandaliad, yn gweithredu fel etifeddiaeth ar gyfer eich anwyliaid. Gwnewch benderfyniad doeth dan ein harweiniad ni. Cyfandaliad ar gyfer eich buddiolwyr pan Fyddwch yn marw Mae’r yswiriant yn para am weddill eich oes Darpariaeth ariannol i deulu neu anwyliaid pan na fyddwch o gwmpas mwyach Diogelu incwm Petai salwch neu anaf yn eich rhwystro rhag gweithio, gall yswiriant diogelu incwm helpu i dalu rhywfaint o’ch colled incwm. Dewiswch yswiriant tymor byr neu dymor hir yn seiliedig ar eich anghenion. Byddwn yn eich arwain drwy’r opsiynau ar gyfer diogelwch priodol. Incwm rheolaidd os nad oes modd i chi weithio Dewis o yswiriant tymor byr neu dymor hir Diogelwch ariannol gwerthfawr mewn achos o salwch neu anaf CIPOLWG CIPOLWG

6 | Diogelwch Rhoi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth Gall yswiriant bywyd ddiogelu anwyliaid, a gall fod yn ddewis doeth ei roi mewn ymddiriedolaeth. Mae’r strwythur cyfreithiol hwn yn golygu bod yr ymddiriedolaeth yn berchen ar y polisi, ac yn cyflwyno’r cyllid i’r buddiolwyr dewisol ar ôl eich marwolaeth. Gallai rhoi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth gynnig manteision o ran treth gan nad yw gwerthoedd polisi yn cael eu cyfrif yn rhan o’ch ystad fel rheol. Efallai y byddwch yn dewis bod ymddiriedolaeth yn oedi rhag talu allan i blentyn nes ei fod yn 18 oed, neu enwi partner di-briod fel buddiolwr. Mae’r broses o greu ymddiriedolaethau yn un gyflym iawn, ond eto mae deall eu buddion a’r ffordd maent yn gweithio yn hanfodol. Mae gwahanol fathau o ymddiriedolaethau yn bodoli, bob un â’i nodweddion unigryw ei hun, ac felly mae hynny’n galw am gyngor arbenigol. Mae ein tîm wrth law i drafod yr opsiynau a’ch arwain i wneud y dewis addas i chi.

Diogelwch | 7 Pam 75point? Dull Teilwredig Rydym yn treulio amser i ddod i ddeall eich anghenion a chynnig cyngor yn arbennig ar eich cyfer chi. Cyngor Annibynnol: Mynediad i’r farchnad gyfan ar gyfer y datrysiadau mwyaf priodol. Rhagoriaeth Siartredig: Mae ein statws yn sicrhau gwasanaeth a safonau o’r radd flaenaf. Proses dan Arweiniad: Rydym yn eich helpu drwy gydol y broses, o wneud dewis i wneud cais. Cymorth Parhaus: Gallwch ddibynnu arnom pryd bynnag y bydd angen cyngor arnoch.

Rydym yn Gynllunwyr Ariannol Siartredig, sydd wedi ymrwymo’n gyhoeddus i ddull cwsmer yn gyntaf a gwerthoedd sy’n cydymffurfio â Chod Moeseg proffesiynol Rhagor o wybodaeth Ffoniwch: 01492 877299 E-bost: info@75point3.com Ewch i: 75point3.com

RkJQdWJsaXNoZXIy NTI5NzM=